Diben Mae’r papur hwn yn rhoi’r diweddaraf am wasanaethau mabwysiadu yng Nghymru ac am ddyhead Llywodraeth Cymru i sefydlu Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol, ac i ddarparu gwybodaeth ar gyfer Ymchwiliad y Pwyllgor i fabwysiadu. Rydym yn ymchwilio i gylch gwaith a swyddogaethau Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol, ac yn cydweithio â llywodraeth leol a’r trydydd sector i ddatblygu model Cymru gyfan. |
Cyflwyniad
1.
Mae
Llywodraeth Cymru yn glynu’n gadarn wrth yr egwyddor
sy’n sylfaen i Ddeddf Plant 1989 mai’r peth gorau, lle
bo modd, yw i blant gael gofal gan eu teuluoedd neu eu teuluoedd
estynedig. Sut bynnag, i sicrhau gwell canlyniadau i blant a phobl
ifanc, cydnabyddwn mai byw oddi cartref yw’r ateb gorau i rai
plant.
2.
Yn Chwefror
2011, cyhoeddwyd Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy i Gymru:
Fframwaith Gweithredu. Roedd yn nodi’n glir y gellid
cyflenwi rhai gwasanaethau yn fwy effeithiol yn genedlaethol, ac
roeddem am ddatblygu hyn drwy weithio gyda rhanddeiliaid i
ymchwilio i gylch gwaith a swyddogaethau Gwasanaeth Mabwysiadu
Cenedlaethol. Rydym am i awdurdodau lleol weithredu’n gynt i
ddod o hyd i gartrefi parhaol i blant na fyddai’n llesol
iddynt ddychwelyd adref, ac i wella’r ffordd yr hyrwyddir
mabwysiadu i gynyddu’r gronfa o fabwysiadwyr.
3.
Mae
Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod mynd ati’n dda i gynllunio
a chomisiynu lleoliadau o ansawdd yn hanfodol i sicrhau gwell
canlyniadau i’n plant a’n pobl ifanc sy’n derbyn
gofal. Gall ystod o leoliadau o ansawdd wneud hyn, drwy nodi
anghenion plant a phobl ifanc, tra’n sicrhau bod eu
bywydau’n parhau i gael eu diogelu gan drefniadau priodol.
Mae dros dri chwarter o’r plant sy’n derbyn gofal mewn
lleoliadau maethu, trefniant dros dro ydyw i rai, ond i nifer o
blant, yn enwedig plant hŷn sydd â chysylltiad
â’u rhieni biolegol, gofal maeth hirdymor yw’r
opsiwn parhaol gorau o ran gofal; cyflwynwyd Gwarchodaethau
Arbennig yn 2005 i roi i ofalwyr maeth, perthynas neu gyfaill
teuluol gyfrifoldeb rhiant am blentyn heb dorri’r cysylltiad
â’i rieni biolegol; plant yn eu harddegau yn y system
(37% rhwng 13 a 18 oed) y mae gan lawer ohonynt anghenion uwch
sy’n gofyn gofal arbenigol. I’r bobl ifanc hyn
mae’n bosibl mai lleoliad preswyl fyddai orau am fod modd
iddynt gael gofal gan weithwyr proffesiynol sydd â’r
sgiliau a’r profiadau i’w hannog i gyrraedd eu holl
botensial.
Y sefyllfa bresennol
4.
Mae
mabwysiadu yn broses gymhleth ac mae angen cryn wybodaeth a
dealltwriaeth o anghenion plant a’r problemau amrywiol
sy’n eu hwynebu. Bydd y gweithwyr cymdeithasol sy’n
cynllunio ac yn trefnu ac yn paratoi plentyn a’i deulu
biolegol ar gyfer mabwysiadu yn ymgymryd â thasg helaeth, yn
aml yn erbyn cefndir o achosion gofal anodd a chynhennus sy’n
gorfodi eu hamserlenni eu hunain ac yn mynnu bod adroddiadau a
chynlluniau gofal cymhleth yn cael eu llunio.
5. Yn y gorffennol, oherwydd rhaniad daearyddol yr awdurdodau lleol, roedd llond llaw o asiantaethau bach iawn yn delio ag ardaloedd gwledig eang ac ni fyddent yn lleoli mwy na dyrnaid o blant bob blwyddyn nac yn recriwtio mwy na nifer fach o ddarpar fabwysiadwyr. Mae’r asiantaethau hyn wedi gweld drostynt eu hunain fantais cydweithio â’i gilydd i ddarparu gwasanaeth mabwysiadu mwy hyfedr a chost-effeithiol.
Plant mewn Gofal
6.
Mae angen
teulu sefydlog a chariadlon ar blant ac weithiau ni all rhieni
biolegol ofalu am eu plant eu hunain. Ar 31 Mawrth 2011, roedd
5,419 o Blant sy’n Derbyn Gofal yng Nghymru, a 3,635 ohonynt
yn destun Gorchymyn Gofal, ar ôl i awdurdodau lleol
fodloni’r llys teulu mai’r peth gorau i’r plant
hyn fyddai eu rhoi dan ofal. Mae’r categori hwn o blant mewn
gofal yn annhebygol o ddychwelyd at eu teulu biolegol, felly,
sicrhau’r gofal gorau posibl ar eu cyfer yw un o
gyfrifoldebau pwysicaf y wladwriaeth.
7.
Dros y 5
mlynedd diwethaf, roedd y rhan fwyaf o’r plant a fabwysiadwyd
rhwng 1 a 4 blwydd oed. Mae nifer y plant sy’n aros 2-3
blynedd cyn cael eu mabwysiadu wedi codi 46% o 65 yn 2006 i 95 yn
2011. Yn 2011, er bod yr amser cyfartalog rhwng dechrau derbyn
gofal a mabwysiadu wedi lleihau o 954 diwrnod (tua 2 flynedd a 7
mis) i 905 diwrnod (tua 2 flynedd a 5 mis), mae’r Llywodraeth
yn cydnabod yr oedi yn y system fabwysiadu ac yn dal i boeni am
hynny ac am y niwed parhaol y gall hyn ei achosi i blant agored i
niwed, drwy ddwyn oddi arnynt eu cyfle gorau i gael cariad a
sefydlogrwydd mewn teulu newydd.
8.
I Blant
sy’n Derbyn Gofal gall mabwysiadu fod yn opsiwn cadarnhaol,
yn enwedig i blant iau, ond hefyd i rai plant hŷn. Bydd
mabwysiadu yn rhoi i blant agored i niwed, gan gynnwys nifer ag
anghenion cymhleth a hanes o gael eu cam-drin, y sefydlogrwydd
mwyaf posibl mewn cartref parhaol gyda theulu parhaol.
9. Nid yw Llywodraeth Cymru yn hollol siŵr bod y system gyfredol bob amser yn gweithio er lles y plentyn. Er 31 Mawrth 2011, mae dros 2,000 o blant wedi bod mewn gofal am 3 blynedd neu fwy; yn y flwyddyn hyd at 31 Mawrth 2011 roedd 252 o fabwysiadau, sef 4.7% o’r boblogaeth gyfan o Blant sy’n Derbyn Gofal – ac nid yw’r ystadegyn hwnnw’n creu darlun calonogol.
Darpar Fabwysiadwyr
10.
Mae
niferoedd y mabwysiadwyr cymeradwy wedi gostwng yn y 18 mis
diwethaf. Mae Asiantaethau Mabwysiadu a’r Gofrestr Fabwysiadu
wedi nodi’r taer angen i recriwtio, asesu a chymeradwyo
mabwysiadwyr posibl, proses sy’n gallu cymryd rhwng 6 ac 8
mis i’w chwblhau. Yn amlwg, caiff y prinder hwn o
fabwysiadwyr posibl effaith aruthrol ar y pariadau addas sydd ar
gael i ddiwallu anghenion amrywiol y plant sy’n aros i gael
eu mabwysiadu. Mae BAAF yn amcangyfrif na fydd 1 o bob 4 o’r
plant sydd ar gael i’w mabwysiadu yn cael eu lleoli, yn
bennaf oherwydd prinder rhieni mabwysiol.
11.
Mae nifer
o’r darpar fabwysiadwyr yn fodlon ar y gwasanaeth a
gânt, ond mae rhai yn anfodlon. Er bod rhai darpar
fabwysiadwyr yn cael sicrwydd a chymorth croesawgar yn ystod eu
hymholiadau cychwynnol ynghylch mabwysiadu, profiad eraill yw fod
asiantaethau mabwysiadu yn ymateb yn araf i ymholiadau cychwynnol.
Mae tystiolaeth yn awgrymu bod darpar fabwysiadwyr mewn gwahanol
rannau o’r wlad yn cael eu gwrthod neu’n gwneud cynnydd
araf yn y broses asesu am nad ydynt yn diwallu anghenion penodol,
cyfredol yr asiantaeth y maent wedi cyflwyno cais iddi, ac mae
hynny’n dangos bod yna ddiffyg cydgysylltu yn gyffredinol o
ran cyflenwad a galw. Mae rhai darpar fabwysiadwyr yn teimlo bod y
broses asesu yn cymryd llawer gormod o amser a llawer mwy
na’r 8 mis a nodir yn y canllawiau statudol. Mae’r
dystiolaeth a gyflwynwyd i’ch ymchwiliad ac a gasglwyd gan
swyddogion Llywodraeth Cymru yn awgrymu bod darpar fabwysiadwyr yn
teimlo bod y broses asesu yn canolbwyntio ar dicio blychau ac
ysgrifennu adroddiadau hir, yn hytrach nag ar eu gallu i fagu
plentyn. Os ydym i gynyddu’r nifer o ddarpar fabwysiadwyr, yn
enwedig y rhai a all ddiwallu anghenion amrywiol ein plant
sy’n derbyn gofal, yn arbennig plant hŷn, grwpiau
sibling, a phlant ag anableddau, rhaid i asiantaethau mabwysiadu
adolygu’r system gyfredol. Mae tystiolaeth hefyd yn awgrymu
bod gwasanaethau ôl-fabwysiadu yn fylchog ledled Cymru; gall
hyn fod yn ganlyniad i leoliad daearyddol yr asiantaethau neu i
gyfyngiadau ariannol cyfredol.
12. Mae peth tystiolaeth yn awgrymu bod y broses baru a ddefnyddir ar hyn o bryd gan asiantaethau yn aneffeithiol. Wrth edrych ar y rhwystrau i baru, mae’r prif broblemau a nodwyd gan nifer o ffynonellau yn deillio o agweddau gweithiwr cymdeithasol y plentyn, sy’n dal i chwilio am y ‘teulu delfrydol’[1]; mae diffyg cyfathrebu rhwng gweithiwr cymdeithasol y plentyn a gweithiwr cymdeithasol y darpar fabwysiadwyr hefyd wedi peri i weithwyr cymdeithasol ‘atal’ pariadau posibl[2].
Ymatebion i’r Ymgynghoriad ar y Bil Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru):
Adran a Theitl: 6.1 – Mabwysiadu
13. Roedd y mwyafrif o’r holl ymatebwyr yn cefnogi’r cynigion polisi cyffredinol ar gyfer Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol. Roedd ymatebion yn awgrymu y byddai Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol:
Ø yn amlygu ac yn lleihau anghysonderau mewn gwasanaethau mabwysiadu ledled Cymru; ac
Ø yn galluogi gwasanaeth cyson a safonedig, i fynd i’r afael â’r gwasanaeth amrywiol sydd ar gael i blant a mabwysiadwyr, sy’n dibynnu ar hyn o bryd ar adnoddau a sgiliau awdurdodau lleol penodol.
Awgrymodd eraill fod hyn yn
gyfle i adolygu darpariaethau mabwysiadu yng Nghymru, gan sicrhau
na chaiff arferion da a chyflawniadau cyfredol eu glastwreiddio
na’u hanwybyddu.
14.
Ymgynghorwyd
hefyd â phlant a phobl ifanc gan gynnwys plant sy’n
derbyn gofal, gofalwyr ifanc a phlant anabl yn rhan o waith a
gomisiynwyd. Roedd y plant a’r bobl ifanc yn cefnogi’r
cynigion yn unfrydol ac roedd y plant sy’n derbyn gofal yn
arbennig o gadarnhaol ynghylch y syniad o ddatblygu Gwasanaeth
Mabwysiadu Cenedlaethol.
15. Cydnabyddaf, fodd bynnag, fod Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Chymdeithas Cyfarwyddwyr y Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cynnig ffyrdd eraill o gynyddu effeithlonrwydd, er enghraifft drwy seilio’r trefniant cenedlaethol ar gydweithredu rhanbarthol, a byddwn yn ystyried manteision eu cynnig yn ofalus.
Cyfiawnder Teuluol
16.
Nodwyd
drwy’r Adolygiad Cyfiawnder Teuluol fod yr amser a gymerir
gan y llysoedd i benderfynu rhoi gorchymyn gofal (interim neu lawn)
i awdurdodau lleol yn destun pryder. Mae’r broses hon yn
gyfrifoldeb i’r system cyfiawnder teuluol gyfan –
sy’n cynnwys staff llys lleol, barnwyr, cyfreithwyr,
awdurdodau lleol, gweithwyr iechyd proffesiynol a chynghorwyr
arbenigol eraill, gan gynnwys y rheini o’r Gwasanaeth
Cynghori a Chynorthwyo Llys i Blant a Theuluoedd (CAFCASS Cymru).
Ond ar hyn o bryd, fel y cadarnhaodd yr Adolygiad Cyfiawnder
Teuluol diweddar, mae hon yn broses sy’n cymryd llawer gormod
o amser – cyfartaledd o 55 wythnos.
Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol
17.
Nod
Llywodraeth Cymru yw gweddnewid gwasanaethau mabwysiadu, i atal yr
oedi a’r dyblygu diangen a gaiff effaith mor negyddol ar y
canlyniadau i’n plant sy’n derbyn gofal. Dymunwn
nodi’r agweddau ar y broses fabwysiadu a gyflawnir orau ar
lefel genedlaethol, tra’n cydnabod bod yna swyddogaethau a
ddylai barhau yn gyfrifoldeb i awdurdodau lleol unigol –
newid heb niwed.
18. O dan ymbarél Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol, bydd Cymru’n datblygu model cenedlaethol a gaiff asiantaethau mabwysiadu yng Nghymru i gydweithio er mwyn gwella gwasanaethau mabwysiadu. Bydd pwerau newydd yn y Bil Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru) yn galluogi Gweinidogion Cymru i’w gwneud yn ofynnol i’r holl awdurdodau lleol (asiantaethau mabwysiadu) ddod ynghyd i greu un Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol i gyflawni swyddogaethau mabwysiadu penodol. Ein syniad ar hyn o bryd yw y byddai’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yn gyfrifol:
Ø Am roi arweiniad Cenedlaethol a throsolygu gwasanaethau mabwysiadu (o ran Safonau, perfformiad a gwella);
Ø Am fframwaith ar gyfer cymeradwyaethau mabwysiadu (gan gynnwys paneli);
Ø Am sefydlu canolfan adnoddau, i roi porth i fabwysiadwyr posibl, yn darparu – gwybodaeth ar raglenni hyfforddi, gwybodaeth ar y broses asesu a llinell gyngor; ac
Ø Am hyrwyddo mabwysiadu, os dyna sydd orau i’r plentyn, recriwtio darpar fabwysiadwyr a datblygu gweithlu arbenigol a hyfedr.
19.
Mae
Llywodraeth Cymru yn credu y bydd sefydlu Gwasanaeth Mabwysiadu
Cenedlaethol yn dwyn manteision mwy ac yn gyfle i grynhoi’r
bobl arbenigol hyfedr hyn. Bydd hynny’n gwella
effeithlonrwydd ac ansawdd y broses asesu, yn sicrhau tegwch yn y
trefniadau ar gyfer mabwysiadu, ac yn annog cronni darpar
fabwysiadwyr a chyflawni mwy effeithlon ac effeithiol drwy fwy o
gydlafurio a chydweithredu ar draws ffiniau i harneisio natur
arbenigol y gwasanaeth mabwysiadu.
20.
Dylai
sefydlu Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol helpu i ryddhau
capasiti, gan alluogi gwasanaethau gofal plant awdurdodau lleol i
ganolbwyntio mwy ar drefniadau lleoli ar gyfer y plentyn. Gall hyn
gynnwys gwaith ynghylch paratoi a chynnal y cynllun mabwysiadu;
a’r gwaith manwl a thrylwyr sy’n ofynnol gan y llysoedd
ar gyfer adroddiadau ac asesiadau plant, wrth wneud cais am
orchymyn lleoli/mabwysiadu. At hynny, byddant yn gallu canolbwyntio
ar yr ochr cymorth ataliol i deuluoedd;
gallai hyn gynnwys creu mwy o gyfleoedd i blant gael eu lleoli yn
eu rhwydweithiau teuluol eu hunain a/neu gynnig ystod ehangach o
wasanaethau gofal seibiant sy’n helpu plant a phobl ifanc i
aros gyda’u teulu biolegol. Bydd trefniadau o’r fath,
mewn nifer o amgylchiadau, yn gwella’r canlyniadau i blant ac
yn gost-effeithiol yn ariannol.
21.
Daeth yr
adroddiad ‘Adenillion Cymdeithasol ar Fuddsoddiad’
(2011)[3] i’r casgliad y gallai pob
mabwysiad llwyddiannus o’r system ofal, lle caiff plentyn
drwy fabwysiadu y cymorth sydd ei angen i ddatrys problemau
o’i orffennol, arwain at adenillion cymdeithasol o dros
£1miliwn fesul lleoliad.
22.
Bydd sefydlu
Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yn rhoi porth i fabwysiadwyr
posibl; gallai hyn gynnwys darparu gwybodaeth ar raglenni hyfforddi
a phrosesau asesu, a llinell cyngor cyffredinol. Y bwriad yw rhoi
cyngor cyson i ddarpar fabwysiadwyr, gan sicrhau bod adnoddau ar
gael i symud ceisiadau yn eu blaen ac nad yw cod post rhywun yn
ffactor a all gyfyngu’r opsiynau i blant.
23. Bydd angen i’r model Cenedlaethol ymchwilio i gyfuno cyllidebau ledled Cymru, er mwyn dileu’r farchnad gystadleuol rhwng awdurdodau lleol wrth ddelio â lleoliadau mabwysiadu. Dylai hyn yn ei dro arwain at lawer llai o oedi yn y broses i blant a darpar fabwysiadwyr. Mae’r fframwaith cyfreithiol ar gyfer cyllidebau cyfun wedi’i hen sefydlu ac rydym wedi buddsoddi llawer er mwyn meithrin dealltwriaeth o sut i’w rheoli yn y byd go iawn.
Dibyniaethau Allweddol
24.
Er mai panel
a ‘Phenderfynwr’ yr asiantaeth fabwysiadu sy’n
ystyried addasrwydd plentyn i gael ei fabwysiadu, y llysoedd
sy’n penderfynu ai mabwysiadu yw’r peth gorau i’r
plentyn ac a ddylid caniatáu Gorchymyn Lleoli/Gorchymyn
Mabwysiadu, proses annatganoledig sy’n rhan o gylch gwaith y
Weinyddiaeth Gyfiawnder (gweler Ffigur 1).
25.
Yn Chwefror
2012, drwy Ddatganiad Gweinidogol, hysbysais aelodau o gyhoeddiad
cyd-ymateb Llywodraeth Cymru/Llywodraeth y DU i’r Adolygiad
Cyfiawnder Teuluol sy’n ymdrin â materion datganoledig
ac annatganoledig. Mae’r Adolygiad yn cyflwyno cynlluniau ar
gyfer diwygiadau mawr i’r system cyfiawnder teuluol er mwyn
delio â’r oedi, symleiddio’r system a chryfhau
rhianta.
26.
Bydd creu
Bwrdd Cyfiawnder Teuluol i Gymru a Lloegr yn sicrhau mwy o
arweiniad a chydgysylltu ar draws asiantaethau cyflawni yn
genedlaethol ac yn lleol, wrth baratoi ar gyfer unrhyw newidiadau
dilynol i’r system. I sicrhau bod materion yng Nghymru yn
cael sylw priodol a dyledus mae’r Bwrdd Cyfiawnder Teuluol yn
cynnwys cynrychiolwyr o Gymdeithas Cyfarwyddwyr y Gwasanaethau
Cymdeithasol a CAFCASS Cymru, yn ogystal ag uwch-swyddog o
Lywodraeth Cymru. Bydd y cynrychiolwyr hyn yn cynghori ar y
cyd-destun Cymreig penodol ac ar agweddau datganoledig allweddol ar
y system cyfiawnder teuluol, gan sicrhau bod hawliau a lleisiau
plant yn ganolog i’r broses yng Nghymru. At hynny, rwyf wedi
sefydlu Rhwydwaith Cyfiawnder Teuluol yng Nghymru i ddod â
phobl allweddol y system cyfiawnder teuluol ynghyd ar lefel Cymru
gyfan, gan sicrhau cyd-ddealltwriaeth leol a nod cyffredin i wella
gwasanaethau a chanlyniadau i blant a theuluoedd yng Nghymru. Bydd
y Rhwydwaith Cyfiawnder Teuluol yn sicrhau bod cynrychiolwyr Cymru
ar y Bwrdd Cyfiawnder Teuluol yn cael digon o gymorth er mwyn i
faterion Cymreig gael eu hystyried yn y cyd-destun
cenedlaethol.
27.
Ni all ac ni
ddylai gweithwyr cymdeithasol weithio ar wahân wrth wneud
penderfyniadau anodd ynghylch mabwysiadu. Mae angen fframwaith
rheoleiddiol arnynt sy’n darparu’r rhwystrau a’r
amddiffynfeydd sy’n caniatáu iddynt weithio’n
hyderus, ond sy’n osgoi dyblygu ac oedi diangen. Gan hynny,
mae Llywodraeth Cymru yn ddiweddar wedi derbyn argymhelliad
yr Adolygiad Cyfiawnder Teuluol i ddileu un o
swyddogaethau’r paneli mabwysiadu. Mae’r fframwaith
rheoleiddiol yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol sefydlu
paneli mabwysiadu, i roi cyngor ar rai penderfyniadau a wneir gan
asiantaethau mabwysiadu. Un o rolau paneli
mabwysiadu yw rhoi cyngor i awdurdodau lleol ar y penderfyniad ai
mabwysiadu sydd orau i blentyn penodol. Fodd bynnag, yn y rhan
fwyaf o achosion, ni all yr awdurdod lleol weithredu ar y
penderfyniad hwnnw a lleoli plentyn i’w fabwysiadu oni bai
fod llys teulu yn cytuno i wneud gorchymyn lleoli. Yn yr achosion
hyn, dadleuodd yr Adolygiad Cyfiawnder Teuluol nad oedd angen i’r panel mabwysiadu ddyblygu
rôl y llys drwy ddarparu craffu annibynnol ar y dystiolaeth
ym mhob achos unigol. Bydd y Llywodraeth yn gweithredu’r
argymhelliad i ddileu’r rôl hon sydd gan baneli
mabwysiadu drwy newidiadau i reoliadau a ddaw i rym ar 1 Medi 2012.
Lle na fydd y llys ynghlwm wrth achos, bydd y panel mabwysiadu yn
cadw’r swyddogaeth hon.
28.
Mae’r
Adolygiad hefyd yn nodi argymhellion ar gyfer datblygiad
proffesiynol gweithwyr cymdeithasol, gan roi mwy o bwyslais ar
ddatblygiad plant a hyfforddiant i wella cynnwys asesiadau
sy’n bodloni gofynion y llysoedd wrth wneud penderfyniadau am
blant. Mae’r Adolygiad yn awgrymu y dylai deddfwriaeth newydd
osod terfyn amser ar achosion gofal –sef dim mwy na chwe mis
i bob achos heblaw’r rhai mwyaf cymhleth ac anodd. Mae hefyd
yn argymell newid y gofynion adnewyddu ar gyfer gorchmynion gofal
interim fel nad oes angen i bobl ddychwelyd i’r llys o hyd
pan fydd achosion gofal yn parhau[4]. Byddai barnwyr yn gyfrifol am
amserlennu a rheoli achosion, yn unol â’r ddeddfwriaeth
arfaethedig i bennu terfynau amser ar gyfer achosion gofal.
Mae’r Adolygiad yn argymell na ddylai’r llysoedd, yn y
dyfodol, graffu ar fanylion cynllun gofal y plentyn a baratowyd gan
yr awdurdod lleol. Dim ond ar y materion hanfodol y dylai graffu,
sef ble y dylai’r plentyn fyw ar ddiwedd yr achos gofal a
faint o gyswllt y dylai ei gael ag aelodau’r teulu os na fydd
yn dychwelyd adref. Ceir sawl argymhelliad ar wella’r
hyfforddiant i farnwyr ac ar sicrhau dilyniant barnwrol mewn
achosion plant. Mae’r Adolygiad hefyd yn argymell creu un
llys teulu yn lle’r llys tair haen presennol.
29. Yn ogystal â dileu’r swyddogaeth benodol hon sydd gan baneli, ac yng ngoleuni newidiadau pellach i’r gwasanaeth mabwysiadu yng Nghymru drwy sefydlu Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol, mae Llywodraeth Cymru yn ystyried dileu’r rheoliad sy’n cyfyngu ar sefydlu cyd-baneli mabwysiadu gan unrhyw ddau ond dim mwy na thri awdurdod lleol.
Fframwaith Cyfreithiol
30. Ni fydd y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yn gweithredu fel "asiantaeth fabwysiadu" fel y cyfeirir ati yn Neddf Mabwysiadu a Phlant 2002 ac yn Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) 2005 a wnaethpwyd o dan adran 9 o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002. Bydd y corff newydd, fodd bynnag, yn cael ei arolygu o dan Ddeddf Safonau Gofal 2000. Bydd y trefniadau ar gyfer arolygu’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yn cael eu nodi yn y rheoliadau.
Sylwadau cloi
31.
Nod ac amcan
y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yw rhagori mewn mabwysiadu
drwy sicrhau lleoliadau teuluol parhaol o ansawdd uchel ar gyfer
plant sy’n derbyn gofal y byddai mabwysiadu yn llesol iddynt.
Bydd angen i’r gwasanaeth newydd ddod yn un pwynt cyfeirio
i’r holl blant â chynllun mabwysiadu, drwy sefydlu a
chynnal un gofrestr.
32.
Yr unig
ffordd o sicrhau perchenogaeth o’r diwygiadau hyn yw drwy
lywodraeth leol a sector gwirfoddol sy’n
gwerthfawrogi’r manteision ac yn eu huchafu drwy ddarparu
gwasanaethau o ansawdd a gwaith partneriaeth effeithiol i ehangu
cydweithredu.
33.
Ym marn Llywodraeth Cymru, y ffordd orau o gyflawni’r
rhaglen hon ar gyfer newid yw drwy waith partneriaeth a
chydweithredu cryf ag awdurdodau lleol, y sector annibynnol
a’r sector gwirfoddol. Mae Grŵp Cynghori Arbenigol ar
Fabwysiadu wedi’i sefydlu i oruchwylio datblygiad Gwasanaeth
Mabwysiadu Cenedlaethol a fydd yn ysgogi gwelliannau mewn
perfformiad ledled Cymru o ran gwasanaethau mabwysiadu penodol yng
Nghymru.
34.
Mae’r
Grŵp yn dwyn ynghyd gynrychiolwyr o’r tu mewn i system
fabwysiadu Cymru, i sicrhau cyd-ddealltwriaeth a nod cyffredin wrth
oruchwylio, cydgysylltu a gwella gwasanaethau a chanlyniadau i
blant a phobl ifanc yng Nghymru y byddai mabwysiadu yn llesol
iddynt, ac i gynnig gwasanaeth sy’n annog ac yn croesawu
ystod eang o ddarpar fabwysiadwyr; mae angen iddo’u paratoi
yn drwyadl ar gyfer yr heriau a’r pleserau niferus sy’n
gysylltiedig â rhoi cartref cariadlon i blentyn; ac i
amlhau’r niferoedd sy’n mynd ymlaen i
fabwysiadu’n llwyddiannus.
35. Cylch gwaith y Grŵp hwn yw ystyried cynigion gan awdurdodau lleol a’u partneriaid wrth ddatblygu fframwaith ar gyfer model gwasanaeth cenedlaethol, sy’n gweithredu dan system ddwy haen (lleol a chenedlaethol) ac sy’n ymdrin â phryderon cyfredol, heb golli cryfderau diamheuol y system bresennol – gan sicrhau newid heb niwed.
Y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol
Mehefin 2012
Ffigur 1: Y rhaniad gweithdrefnol rhwng yr Awdurdodau Lleol a’r Llysoedd
|
|
|
Y llys yn penderfynu
nad mabwysiadu
sydd orau i’r
plentyn
|
|
|
Y llys yn
penderfynu
peidio â chaniatáu
gorchymyn
mabwysiadu Y llys yn penderfynu caniatáu
gorchymyn mabwysiadu
|
Allwedd
- Cyfrifoldeb y Weinyddiaeth Gyfiawnder
- Cyfrifoldeb yr Awdurdod Lleol (ALl)
[1] Farmer, E.; Dance, C.; Beecham, J.; Bonin, E. ac Ouwejan, D. (2010) An investigation of family finding and matching in adoption – briefing paper.
[2] BAAF, Gwneud y Defnydd Gorau o’r Gofrestr Fabwysiadu, Peilot, Ionawr 2011 hyd Ionawr 2012.
[3] PACT, Mabwysiadu a Maethu Domestig: Gwerthuso SROI. Cyflawnwyd y gwerthusiad gan Baker Tilly ac Ysgol Fusnes Cass (Ebrill 2011)
[4] Adroddiad Terfynol yr Adolygiad Cyfiawnder Teuluol – Tachwedd 2011